NDM7606 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 24/02/2021 | I'w drafod ar 03/03/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod y diffyg buddsoddi mewn seilwaith ysgolion dros y degawdau diwethaf wedi golygu nad yw llawer o ysgolion yn addas at y diben.

2. Yn croesawu buddsoddiadau diweddar fel Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ond yn gresynu at y ffaith bod awdurdodau lleol yn eu defnyddio fel cyfrwng i uno ysgolion.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi terfyn ar greu ysgolion mawr iawn sy'n niweidiol i brofiad dysgu pobl ifanc;

b) sicrhau nad yw awdurdodau addysg lleol yn defnyddio diffyg buddsoddiad fel esgus i gau ysgolion cymunedol; a

c) cyhoeddi canllawiau i awdurdodau addysg lleol i sicrhau nad oes rhaid i ddisgyblion ysgol deithio mwy na 15 munud mewn car neu ar gludiant cyhoeddus i fynychu eu hysgol agosaf.

Gwelliannau

NDM7606 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 26/02/2021

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael cyfle i ddysgu yn yr amgylcheddau dysgu gorau.

2. Yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol ac am ddewis model dysgu priodol ar gyfer ardal benodol.   

3. Yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol, wrth wneud newidiadau mawr i ysgolion, gan gynnwys cau ysgolion, gydymffurfio â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac ystyried ystod o ffactorau – yn bennaf oll, buddiannau dysgwyr.

4. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru:

a) wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn ystâd ysgolion a cholegau, ac yn parhau i wneud hynny drwy ei Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif;

b) am fuddsoddi mwy na £300 miliwn yn ein hysgolion a’n colegau eleni; y gwariant blynyddol uchaf ers cychwyn y rhaglen;

c)  yn craffu ar y buddsoddiad yn y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif i sicrhau bod dulliau teithio llesol yn rhan allweddol o’r ddarpariaeth newydd; a

d)   yn adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sy’n pennu’r amodau ar gyfer awdurdodau lleol o ran y gofyniad i ddarparu dull teithio i ddysgwyr rhwng y cartref a’r ysgol, i sicrhau ei fod yn parhau yn addas i’r diben.

Cod trefniadaeth ysgolion

Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Cyflwynwyd gan

NDM7606 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 26/02/2021

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi terfyn ar danariannu disgyblion yng Nghymru;

b) darparu cyllid teg i awdurdodau lleol i ddiogelu ysgolion gwledig;

c) cyflwyno prosiectau yng ngham B Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif i ddechrau ailadeiladu Cymru;

d) sicrhau bod pob ysgol newydd yn cael ei chynllunio mewn ffordd sy'n ymwybodol o anabledd;

e) gwrthsefyll creu ysgolion mawr iawn a sicrhau nad oes unrhyw ysgol yn cael ei chau yn erbyn dymuniadau'r gymuned;

f) sicrhau na all awdurdodau addysg lleol ddefnyddio diffyg buddsoddiad fel esgus i gau ysgolion lleol; a

g) cynnal archwiliad ledled Cymru o gyflwr yr ystâd bresennol ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg.