NDM6095 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 14/09/2016 | I'w drafod ar 14/09/2016Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ei bod yn dair blynedd ers cyhoeddi adroddiad Yr Athro Sioned Davies a argymhellodd ddileu 'Cymraeg ail iaith' a sefydlu un continwwm dysgu'r Gymraeg yn ei le.
2. Yn nodi bod llythyr y Prif Weinidog o fis Rhagfyr 2015 yn datgan ei fod "o'r farn bod y cysyniad "Cymraeg fel ail iaith" yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o'r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol".
3. Yn nodi pwysigrwydd y gyfundrefn addysg er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
4. Yn gresynu at benderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw'r cymhwyster Cymraeg ail iaith am gyfnod dros dro amhenodol, ac felly, er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu o sgiliau i ddefnyddio'r Gymraeg, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) amlinellu amserlen glir ar gyfer disodli'r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl erbyn 2018 a fyddai'n golygu arholi'r cymhwyster newydd yn gyntaf yn 2020;
(b) mabwysiadu strategaeth i dargedu adnoddau ychwanegol ar ddysgu Cymraeg i athrawon dan hyfforddiant, athrawon mewn swydd, cymorthyddion dosbarth ac ymarferwyr dysgu eraill; ac
(c) buddsoddi'n sylweddol, a chynllunio o ddifrif, drwy becyn o fentrau arloesol, er mwyn cynyddu'n gyflym nifer yr ymarferwyr addysg sy'n dysgu drwy'r Gymraeg.
'Un iaith i bawb: Adolygiad o Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4'
'Llythyr gan y Prif Weinidog, 4 Rhagfyr 2015'
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cylchoedd chwarae cyn ysgol.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r dull o feithrin sgiliau iaith Gymraeg ym mhob lleoliad Dechrau'n Deg.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynlluniau ar gyfer meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol ac astudiaethau mewn lleoliadau dysgu yn y gymuned.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi:
a) bod addysg yng Nghymru yn cael ei diwygio, bod Cymwysterau Cymru yn cryfhau TGAU Cymraeg Ail Iaith fel mesur dros dro, ac o 2021 y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu'r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith; a
b) y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau ac amserlenni ar gyfer newidiadau yn y cwricwlwm a'r broses asesu ar gyfer Cymraeg mewn ysgolion.