NDM7587 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 02/02/2021 | I'w drafod ar 09/02/2021Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):
Yn nodi:
a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2020;
b) y Rhaglen Ddeddfwriaethol.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod ymdrechion yr holl weision cyhoeddus a'r cyhoedd i fynd i'r afael â COVID-19 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac yn rhoi diolch iddynt am yr ymdrechion hynny.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun adfer cenedlaethol, yn enwedig o ystyried y posibilrwydd y gallai 3,500 o bobl golli allan ar driniaeth canser yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymhellach y diffyg uchelgais yn y rhaglen ddeddfwriaethol, yn enwedig yr oedi o ran cyflwyno Deddf aer glân i Gymru cyn diwedd tymor y Senedd, er bod cefnogaeth drawsbleidiol ar ei chyfer.