NDM7586 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 02/02/2021 | I'w drafod ar 09/02/2021

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 21 Rhagfyr 2020.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7586 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 03/02/2021

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yn galluogi Cymru i adeiladu'n ôl yn well ac adfer yn dilyn pandemig COVID-19.  

NDM7586 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2021

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 wedi cael ei dylanwadu gan y mudiad globaleiddiol 'adeiladu'n ôl yn well', sydd wedi'i gymeradwyo gan Boris Johnson, Joe Biden, Justin Trudeau, y Comisiwn Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig, a rhai eraill sy'n frwdfrydig ynghylch agenda Fforwm Economaidd y Byd yn Davos.

NDM7586 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2021

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 gael ei had-drefnu er budd cenedlaethol Cymru a Phrydain drwy:

a) atgyweirio'n gyflym y difrod aruthrol i unigolion, teuluoedd, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus a achoswyd gan gyfyngiadau symud y llywodraeth;

b) gwrthod yr agenda 'adeiladu'n ôl yn well' globaleiddiol a fydd yn golygu bod unigolion, teuluoedd a busnesau yng Nghymru:

i) yn dioddef trethi uwch a thlodi tanwydd; a

ii) yn talu cymorthdaliadau enfawr i ddatblygwyr 'ynni gwyrdd' aneffeithlon;

c) dileu unrhyw rannau sy'n hyrwyddo agenda globaleiddiol ddiweddar arall a gaiff ei galw'n 'bedwerydd chwyldro diwydiannol'.

NDM7586 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2021

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt.

Cyflwynwyd gan