NNDM7584 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod
Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2021Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cyfnod eithriadol o anodd yr ydym i gyd yn ei wynebu.
2. Yn cydnabod yr heriau ariannol aruthrol a achoswyd gan argyfwng COVID-19.
3. Yn cydnabod bod Aelodau'r Senedd, yn wahanol i lawer o'n cydwladwyr, wedi parhau i dderbyn cyflog llawn bob mis.
4. O ystyried y sefyllfa bresennol, yn galw ar Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd i rewi tâl aelodau etholedig am y ddwy flynedd ariannol nesaf.