NNDM7582 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 28/01/2021Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau ar gyfer polisïau i ddiogelu cymunedau gwledig rhag troseddu.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) sefydlu tasglu troseddau gwledig cenedlaethol i Gymru, gydag aelodaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr llywodraeth leol a busnesau amaethyddol;
b) creu dyletswydd i'r tasglu hwnnw lunio adroddiad blynyddol ar droseddau gwledig yng Nghymru gydag argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru;
c) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ymateb i argymhellion blynyddol y tasglu hwnnw;
d) gosod dyletswydd ar y tasglu i archwilio sut i wella'r Cod Cefn Gwlad ac addysgu'r cyhoedd yn well gynnwys y cod;
e) ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus gymryd camau rhesymol i wella ymwybyddiaeth o'r Cod Cefn Gwlad;
f) sefydlu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o glefydau sy'n cael eu cario gan gŵn, sy'n peri risgiau i dda byw ac iechyd pobl, a sut y gellir lliniaru hyn.