NDM7581 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021 | I'w drafod ar 03/02/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cofnodi 37,403 o farwolaethau yng Nghymru yn 2020.

2. Yn cydnabod effaith y pandemig COVID-19 ar y rhai sy'n darparu gofal diwedd oes a'r rhai sydd â salwch angheuol a'u hanwyliaid, yn enwedig o ystyried cyfyngiadau'r coronafeirws ar ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol gofal lliniarol o ansawdd uchel a gwasanaethau cymorth profedigaeth o dan amgylchiadau o'r fath.

4. Yn nodi pryderon Coleg Brenhinol Nyrsys Cymru o ran nyrsys yn bod yn flinedig, o dan straen a bron wedi'u gorweithio'n llwyr oherwydd y pandemig a'r pwysau ychwanegol o ddarparu gofal diwedd oes.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) parhau i adolygu'r canllawiau sy'n gysylltiedig ag ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal, fel bod teuluoedd a gweithredwyr yn gallu galluogi cyswllt diogel a thosturiol yn ystod gofal diwedd oes;

b) sicrhau bod y rhai sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes, yn ogystal â'u hanwyliaid, yn gallu cael gafael ar ofal a chymorth emosiynol o ansawdd uchel;

c) cynyddu'n sylweddol y cymorth ariannol ar gyfer gofal lliniarol a gwasanaethau cymorth profedigaeth yn y flwyddyn ariannol nesaf i ddiwallu'r anghenion cynyddol a mwy cymhleth sy'n deillio o'r pandemig;

d) gweithredu cynllun hirdymor i gefnogi nyrsys a staff gofal i ddelio â straen wedi trawma a materion iechyd meddwl a achosir gan y gofyniad cynyddol am ofal lliniarol.

Gwelliannau

NDM7581 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2021

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

(e) mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal diwedd oes da.  

Cyflwynwyd gan