NDM7580 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021 | I'w drafod ar 03/02/2021Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith y bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei gorfodi i dorri swyddi a chwtogi'n ddifrifol ar wasanaethau heb fwy o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ar frys y cyllid annigonol a ddyrannwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022 a darparu setliad ariannu cynaliadwy i'r Llyfrgell Genedlaethol a fydd yn diogelu'r gweithlu presennol ac yn caniatáu i'r llyfrgell ehangu ei gwaith hanfodol ar gyfer y dyfodol.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r dystiolaeth awdurdodol a ddarparwyd yn yr adolygiad teilwredig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nad yw'r Llyfrgell Genedlaethol yn cael y lefel o gyllid sydd ei hangen arni ar hyn o bryd i ddarparu ei gwasanaethau craidd.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Adolygiad Teilwredig o Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd yn:
Nodi bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrthi’n cynnal ymgynghoriad a bod Llywodraeth Cymru’n parhau mewn trafodaeth barhaus â nhw i asesu pob opsiwn posibl.
Cyflwynwyd gan
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi mai nid llyfrgell yn unig yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae'n archif genedlaethol, yn gartref i gasgliad o gelf genedlaethol, yn archif glyweledol a darlledu genedlaethol ac yn archif ddigidol gynradd i Gymru.