NDM7562 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2021 | I'w drafod ar 27/01/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu'r camau cyflym a gymerwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU i sicrhau mynediad at 367 miliwn o ddosau o frechlynnau a sicrhau mai'r DU oedd y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn.

2. Yn cydnabod y cyflenwad sylweddol o frechlynnau a ddarparwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU i bob gwlad gartref.

3. Yn gresynu at y ffaith y dechreuodd y broses o gyflwyno'r brechlyn COVID-19 mor araf yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynllun pum pwynt i warantu llwyddiant y rhaglen frechu, sy'n cynnwys:

a) penodi gweinidog brechlynnau Llywodraeth Cymru;

b) torri biwrocratiaeth i alluogi fferyllfeydd a gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi ymddeol neu gyn-weithwyr iechyd proffesiynol i roi'r brechlynnau;

c) pennu targedau clir a chyhoeddi gwybodaeth ddyddiol fanwl i sicrhau bod y rhaglen frechu ar y trywydd iawn ym mhob rhan o Gymru;

d) ysgogi 'byddin' o wirfoddolwyr i gefnogi GIG Cymru i gyflawni'r rhaglen frechu; ac

e) cyflwyno brechiadau 24/7 mewn canolfannau ledled y wlad.

Gwelliannau

NDM7562 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2021

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau a wrthododd 200,000 o frechlynnau Pfizer ar ddechrau mis Ionawr 2021.

NDM7562 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2021

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu gwaith prydlon y rheoleiddiwr annibynnol, yr MHRA, i sicrhau mai’r Deyrnas Unedig oedd y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn.

2. Yn nodi’r camau a gymerodd Llywodraeth y DU ar ran y 4 cenedl i sicrhau cyflenwadau brechlyn.

3. Yn nodi bod cyflwyno brechlyn ledled Cymru a gweddill y DU yn dibynnu ar sicrwydd y cyflenwad gan gynhyrchwyr.

4. Yn nodi bod oedi o ran cyflenwi OAZ wedi cael effaith uniongyrchol ar gyflwyno’r brechlyn ym maes gofal sylfaenol.

5. Yn nodi strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni 3 carreg filltir allweddol:

a) erbyn canol mis Chwefror – cynnig brechiad i holl breswylwyr ac aelodau o staff cartrefi gofal; aelodau o staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pawb dros 70 a phawb eithriadol o agored i niwed yn glinigol;

b) erbyn y gwanwyn – cynnig brechiad i bob grŵp blaenoriaeth arall yng ngham un, sef pawb dros 50 a phawb sydd â risg uwch oherwydd cyflwr iechyd sylfaenol;

c) erbyn yr hydref – cynnig brechiad i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru, yn unol â chanllawiau’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). 

Cyflwynwyd gan