NDM7561 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2021 | I'w drafod ar 27/01/2021

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad annibynnol i lifogydd yn Rhondda Cynon Taf.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7561 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2021

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a ledled Cymru rhag llifogydd, drwy:

a) sefydlu asiantaeth llifogydd i Gymru i gydlynu'r gwiath o reoli perygl llifogydd a'r ymateb i lifogydd;

b) dynodi lleiniau glas i gyfyngu ar ddatblygiadau diangen mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd sylweddol;

c) cynyddu buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd a rheoli perygl llifogydd;

d) hwyluso ymchwiliadau annibynnol i lifogydd sylweddol er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu;

e) sicrhau bod cyllid ar gael ar unwaith i gynghorau, gwasanaethau brys a Chyfoeth Naturiol Cymru i fynd drwy'r cam glanhau cychwynnol yn effeithiol; a

f) gweithio gyda'r diwydiant yswiriant i sicrhau y gall cartrefi a busnesau gael yswiriant fforddiadwy sy'n gysylltiedig â llifogydd.

NDM7561 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2021

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cymeradwyo gwaith yr ymatebwyr brys, yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd a phawb a gyfrannodd at yr ymateb i achosion difrifol o lifogydd yn 2020 a 2021 yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru;

b) sicrhau bod yr holl ymchwiliadau annibynnol ynghylch llifogydd yn destun craffu gan y cyhoedd ac arbenigwyr annibynnol fel bod y ffeithiau llawn ar gael a bod modd gweithredu yn eu cylch;

c) parhau i gefnogi ein Hawdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod yr amddiffynfeydd yn parhau’n weithredol ac er mwyn helpu’r perchenogion cartrefi y mae’r llifogydd wedi effeithio arnynt a hynny wrth iddynt ymdopi â phandemig y coronafeirws; a

d) cefnogi’r mesurau yn ein Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud ein cymunedau’n fwy cydnerth fel eu bod yn gallu ymdopi â’r peryglon cynyddol ddifrifol sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd.

Cyflwynwyd gan