NDM7552 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2021 | I'w drafod ar 10/03/2021

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) mai Cymru yw'r lle gyda'r cyfraddau uchaf o ddiabetes math 2 o unrhyw le yng ngorllewin Ewrop, lle mae dros 200,000 wedi cael diagnosis, lle yr amcangyfrifir bod 65,000 gyda math 2 heb ddiagnosis, a lle mae 500,000 arall mewn perygl o gael diabetes;

b) bod gofalu am bobl â diabetes eisoes yn defnyddio 10 y cant o gyllideb y GIG;

c) y risgiau cynyddol o ddal COVID-19 ar gyfer dinasyddion sydd â diabetes fel cyflwr sy'n bodoli eisoes; a

d) llwyddiant a chost-effeithiolrwydd y rhaglen Sgiliau Maeth am Oes, sydd wedi ennill sawl gwobr, a dreialwyd yng Nghwm Afan.

2. Yn annog Llywodraeth Cymru i brif ffrydio'r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes ledled Cymru fel elfen ganolog o gynllun atal diabetes i Gymru.