NDM7543 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 06/01/2021 | I'w drafod ar 13/01/2021Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud:
a) Deiseb ‘P-05-1053 Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor’ a gasglodd 20,616 o lofnodion;
b) Deiseb ‘P-05-1063 Dylid agor cyrsiau golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol’ a gasglodd 6,317 o lofnodion; ac
c) Deiseb ‘P-05-1074 Cynyddwch nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed’ a gasglodd 5,330 o lofnodion.