NDM7523 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 11/12/2020 | I'w drafod ar 15/12/2020

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2020 ynghylch lefelau newydd o gyfyngiadau i ymateb i bandemig y coronafeirws yng Nghymru.

Datganiad Ysgrifenedig: Diweddaru’r cynllun rheoli COVID-19 yng Nghymru - 11 Rhagfyr 2020

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7523 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 14/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod adroddiadau yn y wasg yn datgan bod Dr Angela Raffle, sy’n  uwch ddarlithydd mewn gwyddor poblogaeth ym Mhrifysgol Bryste, wedi dweud bod profi torfol ar gyfer COVID-19 yn eithriadol o ddwys o ran adnoddau ac y gallai parhau â hyn yng Nghymru fod yn wastraff adnoddau ar raddfa enfawr.

BBC News - Covid-19 in Wales: Mass testing a 'waste of resources' - 13 Rhagfyr 2020

NDM7523 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 14/12/2020

Ychwanegu’r canlynol fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi:

a) adroddiadau’r wasg ym mis Mawrth 2020 yn datgan y dywedodd Prif Weinidog y DU, o ran lledaeniad COVID-19 yn y DU, os gallwn droi’r llanw o fewn y 12 wythnos nesaf, ei fod yn gwbl hyderus y gallwn anfon y coronafeirws ar ei ffordd o’r wlad hon;

b) nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi digon o sylw i’r sylwadau hyn a’i bod, yn hytrach, wedi dewis defnyddio’r amgylchiadau presennol i hyrwyddo polisïau tymor hir sydd:

i) yn anghymesur ag unrhyw risg iechyd wrthrychol;

ii) nad ydynt yn atal ac yn unioni’r niwed anferth i ryddid dinesig a’r economi a achosir gan ymatebion llywodraethol i COVID-19.

Reuters - UK can turn the tide against virus in next 12 weeks: PM Johnson - 19 Mawrth 2020

NDM7523 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 14/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod lefelau newydd y cyfyngiadau’n anghymesur ac yn niweidiol i fusnesau a bywoliaethau ar draws Cymru.

NDM7523 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 14/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn strategaeth COVID-19 wahanol i un Llywodraeth y DU.

NDM7523 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 14/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu mai’r strategaeth COVID-19 fwyaf llwyddiannus yw cael, yng Nghymru, ymateb unedig ar ran y DU, dan arweiniad Llywodraeth y DU.

NDM7523 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 15/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r cyhoeddiad am lefelau rhybudd newydd yng Nghymru sy'n caniatáu ar gyfer rhoi cyfyngiadau ar waith ar lefel ranbarthol a lleol mewn ymateb i'r dystiolaeth wyddonol a'r gwahaniaethau o ran lefelau heintio coronafeirws mewn gwahanol rannau o'r wlad.  

NDM7523 - 7 | Wedi’i gyflwyno ar 15/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am sicrhau bod cyfyngiadau a chymorth ynysu yn adlewyrchu, cymaint â phosibl, y gwahanol lefelau parhaus o haint mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru.

Cyflwynwyd gan

NDM7523 - 8 | Wedi’i gyflwyno ar 15/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Cymru fodelu manteision rhaglen brofi dorfol fel y cafwyd yn Slofacia ac ystyried ei rhoi ar waith.

Cyflwynwyd gan

NDM7523 - 9 | Wedi’i gyflwyno ar 15/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol yn ddiogel fel lleoliadau lletygarwch, diwylliant a chwaraeon yn seiliedig ar ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.

Cyflwynwyd gan