NDM7513 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2020 | I'w drafod ar 15/12/2020

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Gosodwyd y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 6 Gorffennaf 2020.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gerbron y Senedd ar 4 Rhagfyr 2020. 

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7513 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith nad yw'r Bil yn rhoi'r hawl i rieni dynnu eu plant yn ôl o addysg cydberthynas a rhywioldeb.