NDM7503 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2020 | I'w drafod ar 09/12/2020

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 03-20 a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Rhagfyr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cadarnhau’r argymhelliad yn yr adroddiad fod rheol wedi’i thorri.

3. Yn penderfynu ar y canlynol am gyfnod o 21 diwrnod, ac eithrio yn ystod toriad y Senedd, gan ddechrau’n syth wedi i’r cynnig hwn gael ei dderbyn a chan ddod i ben dim hwyrach na hanner nos ar 21 Ionawr 2021:

a) bydd hawliau a breintiau’r Aelodau a’i fynediad i’r Senedd a Thŷ Hywel yn cael eu tynnu’n ôl o dan Reol Sefydlog 22.10 (ii);

b) caiff yr Aelod ei wahardd o drafodion y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.10(iii); ac

c) ni fydd yr Aelod yn cael hawlio cyflog gan y Senedd ar gyfer y dyddiau y mae paragraffau a. a b. uchod yn gymwys iddynt, yn unol â Rheol Sefydlog 22.10A.