NDM7501 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2020 | I'w drafod ar 08/12/2020

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi:

a) y cynnydd yn y gyfradd dreigl saith niwrnod mewn perthynas â digwyddedd achosion o’r coronafeirws ledled Cymru; 

b) y datganiad gan y Prif Weinidog ar 1 Rhagfyr a oedd yn nodi’r mesurau cenedlaethol newydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a lleihau lledaeniad y coronafeirws; ac

c) y pecyn cymorth busnes £340 miliwn a ddarperir drwy’r gronfa cadernid economaidd i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y mesurau cenedlaethol newydd.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NNDM7501 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu nad yw dull gweithredu Cymru gyfan yn gymesur o ystyried bod COVID-19 yn cylchredeg ar wahanol gyfraddau mewn gwahanol rannau o'r wlad.

NNDM7501 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu nad oes digon o dystiolaeth i ddangos bod cyfyngiadau presennol Llywodraeth Cymru ar werthu alcohol mewn tafarndai, caffis a bwytai yn gymesur.

NNDM7501 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod y cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae'r cyfyngiadau'n effeithio arnynt yn annigonol, yn enwedig pan fo cwmnïau wedi gwario symiau enfawr ar sicrhau bod eu safleoedd yn ddiogel i staff a chwsmeriaid o ran COVID-19.

NNDM7501 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gau lleoliadau adloniant dan do.

NNDM7501 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol.

NNDM7501 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi, o ran y cyfyngiadau coronafeirws diweddar a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar dafarndai, bwytai a safleoedd lletygarwch, fod adroddiadau yn y wasg yn datgan:

a) bod prif weithredwr bragdy mwyaf Cymru, S.A. Brains, wedi dweud eu bod yn sarhaus ac yn slap enfawr yn yr wyneb i'r sector, a'i fod wedi galw ar wleidyddion i roi'r gorau i newid eu meddwl am yr hyn sy'n ofynnol; a

b) bod y Cymundod Bwytai Cymreig Annibynnol wedi'u disgrifio fel ergyd drom i'r rhai sydd wedi gweithio mor galed i wneud lletygarwch yn ddiogel a goroesi'r naw mis diwethaf.

BBC Newyddion - Covid: Brains i gau mwy na 100 o dafarndai oherwydd rheolau alcohol Cymru - 2 Rhagfyr 2020 (Saesneg yn unig)

South Wales Argus - Gwahardd alcohol a'r rheol 6pm mewn tafarndai a bwytai yn ergyd corff - 30 Tachwedd 2020 (Saesneg yn unig)

NNDM7501 - 7 | Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi ymarferwyr meddygol a gwyddonwyr meddygol ac iechyd cyhoeddus sydd wedi llofnodi datganiad Great Barrington i'w chell ymgynghorol technegol ar unwaith.

Datganiad Great Barrington (Saesneg yn unig)

NNDM7501 - 8 | Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn datgan y gwelwyd cynnydd yn y gyfradd dreigl saith niwrnod mewn perthynas â digwyddedd achosion o’r coronafeirws ledled Cymru ar ôl i'w chyfyngiadau symud cenedlaethol ddod i ben ar 9 Tachwedd 2020.

NNDM7501 - 9 | Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu: ,

a)  at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ar drywydd camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn o'r sefyllfa yng Nghymru;

b) at y ffaith mai effaith gyfyngedig iawn a gaiff y cyfyngiadau ar gyfraddau heintio yng Nghymru;

c) at y ffaith y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith barhaol ar swyddi a bywoliaethau ac y byddant yn achosi niwed parhaol i'r sector lletygarwch yng Nghymru.

NNDM7501 - 10 | Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod y cyfyngiadau coronafeirws newydd yn anghymesur ac yn niweidiol i fusnesau a bywoliaethau ledled Cymru.

2. Yn credu bod y cymorth ariannol sydd ar gael i'r rhai y mae'r cyfyngiadau newydd yn effeithio arnynt yn annigonol, ac y bydd llawer o swyddi a busnesau'n cael eu colli. 

3. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau gwahanol i Lywodraeth y DU yn gyson mewn perthynas â COVID-19

4. Yn credu mai'r strategaeth COVID-19 a fyddai'n fwyaf llwyddiannus yng Nghymru yw ymateb unedig, DU gyfan, dan arweiniad Llywodraeth y DU.

NNDM7501 - 11 | Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno, er y gall lleoliadau lletygarwch aros ar agor, na ddylent fod yn destun gwaharddiad llwyr ar werthu alcohol fel y nodir ar hyn o bryd yn y rheoliadau a ddaeth i rym ar 4 Rhagfyr.

Cyflwynwyd gan

NNDM7501 - 12 | Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylai'r terfyn amser ar gyfer gwerthu alcohol mewn archfarchnadoedd a siopau diodydd trwyddedig fod yn gyson â'r terfyn amser a bennwyd ar gyfer lleoliadau lletygarwch.

Cyflwynwyd gan

NNDM7501 - 13 | Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylid caniatáu i leoliadau lletygarwch aros ar agor tan 8pm.

Cyflwynwyd gan

NNDM7501 - 14 | Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu

a) yr amcanion penodol y mae'n gobeithio y bydd y cyfyngiadau cenedlaethol newydd a amlinellwyd yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn eu cyflawni; a

b) beth fydd y trothwy ar gyfer llacio'r mesurau hynny.

Cyflwynwyd gan

NNDM7501 - 15 | Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylid cyhoeddi cyngor diweddaraf cell cyngor technegol Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r holl ddata sy'n cefnogi'r penderfyniadau polisi, ochr yn ochr ag unrhyw gyhoeddiad ar gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach, neu cyn cyhoeddiad o'r fath.

Cyflwynwyd gan

NNDM7501 - 16 | Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu rhagdybiaeth o blaid cynnal pleidlais ystyrlon yn y Senedd cyn y bydd unrhyw gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach a gaiff yr un fath o effaith â'r rhai a amlinellir yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn dod i rym.

Cyflwynwyd gan

NNDM7501 - 17 | Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfle i'r gwrthbleidiau wneud ceisiadau rhesymol am fodelu annibynnol gan y gell cyngor technegol ar gynigion amgen mewn perthynas â materion fel cau'r sector lletygarwch ac ymyriadau eraill nad ydynt yn rhai fferyllol.

Cyflwynwyd gan