NDM6094 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 14/09/2016 | I'w drafod ar 14/09/2016

Gwelliannau

NDM6094-1 | Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2016

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu nad yw dethol yn y system addysg yn briodol i ysgolion yng Nghymru.

NDM6094-2 | Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2016

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu mai ymestyn dewisiadau rhieni a disgyblion yw'r ffordd orau o wella safonau yn ein hysgolion.

NDM6094-3 | Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2016

Ym mhwynt 3, dileu:

'sy'n rhoi hawl i blant gael addysg ramadeg os yw rhieni'n dymuno hynny'.

NDM6094-4 | Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2016

Ym mhwynt 3, dileu:

'ac ailgyflwyno ysgolion gramadeg'.

NDM6094-5 | Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2016

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod miloedd o blant bob blwyddyn yng Nghymru yn cael eu gwrthod o'r ysgolion y byddai orau ganddynt hwy a'u rheini am fod ysgolion da, llwyddiannus yn llawn.

NDM6094-6 | Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2016

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau ysgolion o reolaeth awdurdodau lleol a galluogi ysgolion poblogaidd i ehangu er mwyn galluogi rhagor o ddisgyblion i gael mynediad i'r ysgolion y maent hwy a'u rhieni yn eu dewis.