NDM7495 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 25/11/2020 | I'w drafod ar 02/12/2020

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi pwysigrwydd y sector bwyd i ystod eang o agendâu polisi yng Nghymru, gan gynnwys yr amgylchedd, iechyd, yr economi a thlodi;

2. Yn gresynu at y diffyg aliniad i ddarparu polisi bwyd cenedlaethol cydlynol o fewn strategaethau a chynlluniau gweithredu bwyd Llywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf; 

3. Yn cydnabod bod pandemig COVID-19 wedi amlygu gwendidau ein system fwyd bresennol. 

4. Yn canmol y rôl y mae ffermwyr a chynhyrchwyr Cymru yn ei chwarae yn y broses o gadw ein silffoedd wedi stocio.

5. Yn deall bod argyfyngau'r hinsawdd, natur a bioamrywiaeth yn cynyddu'r tebygolrwydd o dywydd eithafol a fydd yn effeithio'n sylweddol ar y system fwyd fyd-eang.

6. Yn nodi bod 14 y cant o deuluoedd â phlant yn y DU wedi profi ansicrwydd bwyd rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020, a bod Ymddiriedolaeth Trussell wedi dosbarthu 70,393 o barseli bwyd brys yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) symud tuag at ddull mwy cydlynol o ymdrin â pholisi bwyd yng Nghymru drwy ddod â chomisiwn system fwyd traws-sector at ei gilydd a rhoi iddo’r dasg o ddatblygu cynllun i ddarparu system fwyd sy'n addas i genedlaethau'r dyfodol;

b) sicrhau bod systemau bwyd yn gallu gwrthsefyll ffactorau allanol yn y tymor hir, fel yr argyfwng hinsawdd;

c) datblygu gallu prosesu lleol ledled Cymru; 

d) cynyddu faint o fwyd a diod o Gymru a gaiff ei gaffael drwy wasanaethau cyhoeddus. 

System Fwyd yng Nghymru sy’n Addas i Genedlaethau’r Dyfodol - Adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd, a gomisiynwyd gan WWF Cymru (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7495 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2020

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 7:

cyflwyno siarter bwyd a diod leol i annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod Cymreig o ffynonellau lleol a helpu i hyrwyddo'r cynllun i ddefnyddwyr;

datblygu strategaeth dwristiaeth i hyrwyddo llwybrau a phrofiadau bwyd a diod ledled Cymru;

gweithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru dramor.

NDM7495 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod mynediad at fwyd a gwarchod yr amgylchedd yn cael ei gyflawni drwy wella sgiliau, codi incwm a galluogi gweithredu ar y cyd ar lawr gwlad rhwng cymunedau, busnesau a chyrff cyhoeddus.

2. Yn croesawu'r adroddiad gan yr Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cytuno y dylai’r mecanweithiau newydd ar gyfer seilwaith a chyflenwi gael eu llywio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r pum ffordd o weithio.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i ddod â ffermwyr, busnesau bwyd, cyrff cyhoeddus a chymdeithas sifil at ei gilydd i weithio tuag at weledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol;

b) i ddisodli system o daliad sylfaenol ar gyfer cymhorthdal fferm i gyflawni canlyniadau amgylcheddol yn ogystal â bwyd o safon uchel;

c) i hyrwyddo gweithio teg ac arloesi yn y sector bwyd yng Nghymru i helpu i greu mwy o swyddi sy’n cael eu talu’n dda yn yr economi sylfaenol;

d) i gefnogi prosiectau tyfu bwyd cymunedol ac ail-ddefnyddio bwyd ym mhob cymuned yng Nghymru.

Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Cyflwynwyd gan