NDM7489 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020 | I'w drafod ar 25/11/2020

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad BBC Wales Investigates a ddangosodd bod 10 gwaith yn fwy o gleifion yn aros am bob triniaeth yn GIG Cymru o gymharu â mis Medi 2019.

2. Yn nodi ymhellach y rhybudd gan arbenigwyr ac elusennau canser blaenllaw y gallai 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn GIG Cymru.

3. Yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd sy'n cefnogi cleifion nid yn unig â'r coronafeirws ond ag amrywiaeth o gyflyrau.

4. Yn gresynu at y ffaith bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi amcangyfrif y byddai'n cymryd tymor seneddol llawn i ailddechrau gwasanaethau arferol ac y byddai'n ffôl cael cynllun ar waith i fynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn rhestrau aros.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi hwb i'r defnydd o ysbytai sy’n rhydd o COVID-19 ar unwaith, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a'r  Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys;

b) cynnal adolygiad brys o sut mae cleifion ysbyty yng Nghymru yn cael eu rhyddhau yn ystod y pandemig a gweithredu'r canfyddiadau hynny i fynd i'r afael â thagfeydd mewn ysbytai, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr;

c) gwella ei threfn brofi'n sylweddol er mwyn cynyddu capasiti a sicrhau bod COVID-19 yn cael ei ynysu a'i gadw allan o ysbytai Cymru;

d) cyflwyno cynllun adfer canser, fel y gwelir mewn rhannau eraill o'r DU, a chynyddu'r buddsoddiad yn y gwaith o gyflwyno canolfannau diagnostig cyflym ledled Cymru;

e) gweithredu ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser, neu y mae angen iddynt fynd i'r ysbyty mewn argyfwng, yn parhau i wneud hynny.

Tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd i Senedd y DU gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr a Choleg Brenhinol Meddygaeth Frys - 16 Mehefin 2020 (Saesneg yn unig)

Gwelliannau

NDM7489 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2020

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5:

'cynnal adolygiad o berfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros dros y degawd diwethaf i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu am reoli rhestrau aros;

ystyried defnyddio'r ysbytai Nightingale lle y bo'n bosibl i ddarparu capasiti ychwanegol i gleifion sy'n gwella yn dilyn llawdriniaeth er mwyn helpu i gynyddu llif drwy'r system.'

Cyflwynwyd gan

NDM7489 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2020

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod yr ystadegau ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd yn dangos cynnydd o 11 y cant yng nghyfanswm y niferoedd sy’n aros am driniaeth rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2020, ac mai nifer yr arosiadau dros y targed cenedlaethol o 36 wythnos sydd naw gwaith yn fwy, tuedd sydd i’w gweld ym mhob rhan o’r DU.

StatsCymru

Cyflwynwyd gan

NDM7489 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2020

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu y bydd Cymru, y DU, a’r byd yn byw gydag effeithiau COVID-19 am flynyddoedd lawer.

Yn nodi bod cynlluniau’r GIG, tra mae COVID yn dal i fod yn ein cymuned, yn canolbwyntio ar gydbwyso darparu gwasanaethau COVID a gwasanaethau eraill yn ddiogel.

Cyflwynwyd gan

NDM7489 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2020

Dileu is-bwynt 5(a) a rhoi yn ei le: 

gweithio gyda chlinigwyr lleol i ddarparu modelau cyflawni sy’n gwneud y mwyaf o’r holl adnoddau i ddarparu gofal diogel o safon ar gyfer llwybrau COVID a llwybrau eraill ar gyfer cymunedau lleol.

Cyflwynwyd gan

NDM7489 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2020

Dileu is-bwynt 5(d) a rhoi yn ei le:

parhau i weithio gyda’r rhwydwaith canser a’r GIG i sicrhau y gall gwasanaethau canser ateb galwadau newydd a’r galw presennol, a chytuno sut i fuddsoddi yn y dyfodol i wireddu’r ymrwymiad y cytunwyd arno ar gyfer profion diagnostig cyflym.

Cyflwynwyd gan

NDM7489 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2020

Yn is-bwynt 5(e) dileu “gweithredu ymgyrch” a rhoi yn ei le “parhau â’n hymgyrch”.

Cyflwynwyd gan