NDM7478 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020 | I'w drafod ar 24/02/2021Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau;
b) sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol BSL i rymuso'r gymuned BSL yng Nghymru;
c) ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyd-gynhyrchu a chyhoeddi cynllun BSL cenedlaethol, a sefydlu nodau strategol i wella hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau cymorth a gwella sgiliau BSL ar draws cymdeithas; a
d) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyd-gynhyrchu a chyhoeddi eu cynllun BSL eu hunain i ddatblygu ymwybyddiaeth a hyfforddiant BSL, a gwella mynediad at wasanaethau rheng flaen.