NDM7456 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2020 | I'w drafod ar 11/11/2020

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai heddiw yw Diwrnod y Cadoediad.

2. Yn cofio ac yn anrhydeddu pawb sydd wedi colli eu bywydau ac wedi aberthu wrth wasanaethau ein gwlad, gan gynnwys clwyfedigion sifil gwrthdaro.

3. Yn diolch i'r holl sefydliadau hynny ledled Cymru sy'n gweithio i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog a'n cyn-filwyr.

4. Yn mynegi diolch am gyfraniad sylweddol y Lluoedd Arfog i'r ymateb COVID-19 cenedlaethol yng Nghymru. 

5. Yn cydnabod y cyfraniad parhaus sylweddol y mae'r fyddin yn ei wneud i Gymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth iddi geisio cynnal Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Cyfamod y Lluoedd Arfog (Saesneg yn unig)

Gwelliannau

NDM7456 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil Peidio â Gadael yr un Milwr ar Ôl a fyddai'n gwarantu tai a gofal iechyd o safon i gyn-filwyr sydd wedi ymgymryd â gwasanaeth gweithredol.

NDM7456 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2020

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel.

Yn credu bod yn rhaid i Gymru, ar adeg o heriau cenedlaethol a byd-eang na welwyd eu tebyg o'r blaen, chwarae ei rhan wrth lunio dyfodol heddychlon ac felly yn croesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru.

Cyflwynwyd gan