NDM7450 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2020 | I'w drafod ar 04/11/2020Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â dysgu hanes mewn ysgolion:
a) Deiseb ‘P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu’ a gasglodd 7,927 o lofnodion; a
b).Deiseb ‘P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru’ a gasglodd 34,736 o lofnodion.