NNDM7441 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 19/10/2020Cynnig bod y Senedd
1. Yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a grëwyd gan y niferoedd cynyddol o achosion a difrifoldeb COVID-19 yng Nghymru a’r niferoedd cynyddol o bobl sydd yn yr ysbyty ac mewn Unedau Gofal Dwys o ganlyniad.
2. Yn cytuno y dylid cyflwyno ‘cyfnod atal byr’, fel y cynigiwyd gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, er mwyn gostwng yr R, lleihau cadwyni o drosglwyddiadau pellach, cyfyngu i’r eithaf ar glystyrau o haint yn y gymuned a chryfhau’r system Profi Olrhain Diogelu ymhellach.
3. Yn cytuno bod rhaid i gyfnod atal byr gael ei seilio ar gymorth ychwanegol i ddiogelu ffyrdd o fyw a llesiant ac yn nodi’r ddarpariaeth o gymorth ariannol brys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfnod atal byr.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at y ffaith na wnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori â'r Senedd am fesurau posibl i fynd i'r afael â lledaeniad y clefyd cyn cyhoeddi ei chyfnod atal byr, fel y'i gelwir.
Yn nodi bod SAGE yn datgan y caiff y cyfnod atal byr effaith negyddol gymedrol ond wedi eithrio'r effeithiau economaidd, a fydd yn debygol o fod yn ddifrifol ac yn para'n hir.
Yn credu nad oes angen i Gymru droi at fesurau mor eithafol ar hyn o bryd ac yn galw am orfodi mesurau yn fwy llym mewn mannau problemus o ran COVID-19.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi, ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar 11 Hydref 2020, bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgan:
a) bod 367 o gleifion mewnol wedi cael canlyniad positif mewn prawf SARS-Cov-2, o fewn y 28 diwrnod diwethaf, allan o gyfanswm o 8,358 o gleifion mewnol ym mhob ward ysbyty yng Nghymru;
b) bod 24 o gleifion mewnol wedi cael canlyniad positif mewn prawf SARS-Cov-2, o fewn y 28 diwrnod diwethaf, allan o gyfanswm o 132 o gleifion mewnol ym mhob ward gofal critigol yng Nghymru.
2. Yn credu y bydd y cyfnod atal byr, fel y cynigiwyd gan SAGE a grŵp cynghori technegol Llywodraeth Cymru, yn cael effaith andwyol a fydd:
a) yn dinistrio rhannau helaeth o ddiwydiannau lletygarwch, hamdden a diwydiannau pwysig eraill Cymru;
b) yn anghymesur ag unrhyw risg iechyd gwrthrychol;
c) yn ymosodiad difrifol ar ryddid sifil; a
d) yn hunandrechol, oherwydd ei fod yn debygol o wneud dim mwy nag oedi cwrs anochel y feirws.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â gweithredu'r cyfnod atal byr fel y cynigiwyd gan SAGE a grŵp cynghori technegol Llywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y tueddiadau diweddar yn nifer yr achosion o ganlyniad positif mewn profion COVID-19 yng Nghymru a nifer y bobl mewn ysbytai ac unedau gofal dwys sydd gyda COVID-19.
2. Yn mynegi siom ynghylch methiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi digon o ddata a thystiolaeth i ddangos bod cyfnod atal byr ar gyfer pob rhan o Gymru naill ai'n gymesur neu'n angenrheidiol.
3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gyfyngiadau coronafeirws gael eu hategu gan gymorth i'r rhai yr effeithir yn andwyol arnynt, gan gynnwys cymorth i fusnesau, bywoliaeth a lles.
4. Yn croesawu'r cymorth ariannol digynsail gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, gan gynnwys mwy na £4.4 biliwn i helpu i ymateb i heriau pandemig y coronafeirws.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei strategaeth coronafeirws a mabwysiadu dull mwy penodol o ymyrryd.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid defnyddio'r capasiti presennol yn llawn ac y dylai'r adnoddau ychwanegol sy'n angenrheidiol gael eu darparu fel mater o frys i system profi olrhain diogelu Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl ganlyniadau'n cael eu dychwelyd a bod timau olrhain yn cael gwybod am ganlyniadau positif o fewn 24 awr i gynnal prawf.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid defnyddio'r cyfnod atal byr fel cyfle i gynllunio a gweithredu cyfres newydd o ymyriadau yn seiliedig ar strategaeth lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 neu ddileu COVID-19 sy'n ceisio osgoi'r angen am donnau olynol o gyfyngiadau symud dros dro, gan ddefnyddio'r gwersi arfer gorau o Gymru ac yn rhyngwladol mewn meysydd fel, er heb fod yn gyfyngedig i: brofion torfol a rheolaidd gan gynnwys profi cysylltiadau asymptomatig; awyru; atal achosion rhag cael eu mewnforio o'r tu allan i Gymru; cymorth a chyngor ymarferol ac ariannol ar gyfer y rhai y mae angen iddynt ynysu; cyfathrebu cyhoeddus clir a chyson; ac ymestyn gwisgo mwgwd i sefyllfaoedd eraill.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu lefel y cymorth cyflog a ddarperir drwy'r cynllun cymorth swyddi i'r hyn a ddarparwyd ym mis Mawrth 2020 pan gyflwynwyd y cynllun cadw swyddi.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i lacio'r cyfyngiadau benthyca er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd ariannol i Lywodraeth Cymru ymateb i'r argyfwng COVID-19.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno'r cynllun cymorth swyddi wyth diwrnod yn gynharach.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau rheoli heintiau mewn ysbytai ar gyfer atal heintiau COVID-19 a geir mewn ysbytai ac ystyried sefydlu safleoedd dynodedig lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 i hwyluso triniaeth amserol a diogel ar gyfer canser ac anhwylderau eraill sy'n bygwth bywyd.