NNDM7432 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2020Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer deddfwriaeth yn ymwneud ag ail gartrefi.
2. Yn nodi mai bwriad y ddeddfwriaeth fyddai:
a) diwygio dosbarthiadau defnydd cynllunio i greu dosbarth defnydd ‘ail gartref’;
b) dyblu cyfradd uwch y dreth trafodiadau tir ar unwaith am gyfnod cychwynnol o chwe mis;
c) diweddaru’r gyfraith sy’n golygu nad oes rhaid talu’r un geiniog o dreth cyngor ar rai ail gartrefi ar hyn o bryd; a
d) treblu uchafswm premiwm y dreth gyngor y gellid ei godi ar ail gartrefi i o leiaf 200 y cant.