NDM7421 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 30/09/2020 | I'w drafod ar 07/10/2020

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru a’r heriau y mae’r sectorau hyn yn eu wynebu yn sgil COVID-19.

2.Yn croesawu’r archwilio o’r newydd sydd wedi bod ar dreftadaeth amrywiol Cymru yn ystod misoedd y pandemig yng ngoleuni mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys ac ymgyrchoedd eraill. 

3. Yn cefnogi galwadau i sicrhau y caiff ein treftadaeth ei hyrwyddo a’i chyflwyno mewn modd sensitif a chynhwysol o’i holl amrywiaeth gyfoethog yn y dyfodol. 

4. Yn gresynu at y ffaith bod cynllun cefnogi swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annhebygol o achub llawer o leoliadau celfyddydol a cherddoriaeth byw ac atyniadau diwylliannol rhag cael eu cau, nac achub gyrfaoedd gweithwyr y celfyddydau (llawrydd a chyflogedig) er gwaetha’r ffaith yr oeddent yn hyfyw cyn COVID-19.

5. Yn gwrthwynebu cynigion i ddatblygu un neu ragor o amgueddfeydd milwrol ym Mae Caerdydd. 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a) gweithio gyda Cyngor y Celfyddydau, Tasglu Llawrydd Cymru, a grwpiau a sefydliadau eraill ym maes y celfyddydau a diwylliant i weithredu argymhellion yr adroddiad: ‘Ailfantoli ac Ailddychmygu: Strategaethau i Gefnogi Gweithwyr Llawrydd ym Maes y Celfyddydau a Pherfformio';

b) defnyddio’r gyfundrefn gynllunio i gyfyngu ar a rheoli’r gallu i adeiladau a ddefnyddid at ddibenion celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth cyn i Ddeddf Coronafeirws 2020 ddod i rym gael caniatâd cynllunio newid defnydd tra bo’r pandemig yn parhau i effeithio ar y gallu i ddefnyddio’r lleoliadau hynny at eu prif ddiben; 

c) archwilio creu amgueddfa genedlaethol hanes a threftadaeth pobl ddu a phobl o liw i’w lleoli yn Tiger Bay fel cynnig amgen posibl i’r cynnig ar gyfer un neu ragor o amgueddfeydd milwrol; 

d) sicrhau mwy o gyfranogiad pobl ddu a phobl o liw yn y celfyddydau a chyrff diwylliannol, fel y gelwir amdano yn y Maniffesto ar gyfer Cymru Gwrth-hiliaeth gan Gynghrair Hil Cymru; 

e) sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle canolog yng ngweithlu ac allbwn sector y celfyddydau yn ei chyfanrwydd wrth symud ymlaen;

f) cyflwyno gwarchodaeth statudol i atal colli enwau lleoedd Cymraeg o’r amgylchedd naturiol a’r amgylchedd adeiledig; a

g) sicrhau bod pob adran o’r llywodraeth yn gweithredu yn strategol tuag at gyflawni chweched nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sef Cymru â ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac i ymgysylltu'n drylwyr ac yn ystyrlon gyda sectorau’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wrth wneud hynny.

Ailfantoli ac Ailddychmygu: Strategaethau i Gefnogi Gweithwyr Llawrydd ym Maes y Celfyddydau a Pherfformio

Deddf Coronafeirws 2020 (Saesneg yn unig)

Cynghrair Hil Cymru: Ein Maniffesto dros Gymru Wrth-Hiliol

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

 

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7421 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn cydnabod pwysigrwydd sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru a Phrydain, a'r heriau y mae'r sectorau hyn yn eu hwynebu'n rhannol oherwydd cyfyngiadau symud a chyfyngiadau eraill a gaiff eu pennu gan lywodraethau.

NDM7421 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys:

a) yn grŵp treisgar ar yr asgell chwith eithafol;

b) wedi'i gyd-sylfaenu gan Patrisse Cullors a gyfaddefodd fod y grŵp yn Marxwyr hyfforddedig;

c) yn bwriadu rhoi terfyn ar gyfalafiaeth a dadariannu'r heddlu; a

d) yn fudiad na ddylai gael unrhyw ddylanwad ar dreftadaeth a diwylliant Cymru.

NDM7421 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi'n llwyr Deyrnas Unedig a Chymru lle mae meritocrad, cyfle cyfartal a goddefgarwch tuag at safbwyntiau amgen amrywiol ar flaen y gad o ran llunio polisïau, gan gynnwys yn y sectorau celfyddydol, diwylliant a threftadaeth.

NDM7421 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi galwadau i sicrhau bod ein treftadaeth yn cael ei diogelu a'i pharchu, ac yn gwrthod cysylltiad â'r grwpiau gwleidyddol hynny sy'n dymuno dinistrio cerfluniau a dileu hanes Cymru a Phrydain.

NDM7421 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod grwpiau gwrth-hiliol, gan gynnwys Black Lives Matter, yn ceisio creu rhaniadau er budd gwleidyddol ac wedi tanseilio cysylltiadau hiliol yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig.

NDM7421 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2020

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu pecyn achub y celfyddydau gwerth £1.57 biliwn gan Lywodraeth Ei Mawrhydi a'r swm canlyniadol o £59miliwn sy'n deillio ohono i Gymru. 

NDM7421 - 7 | Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2020

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu cynlluniau ar gyfer amgueddfa meddygaeth filwrol ym Mae Caerdydd ac yn cydnabod pwysigrwydd lleoliadau ledled Cymru sy'n dathlu treftadaeth filwrol gyfoethog Cymru.

NDM7421 - 8 | Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2020

Yn is-bwynt 6 b), dileu 'defnyddio'r system gynllunio' a rhoi yn ei le 'archwilio defnyddio'r system gynllunio'.

NDM7421 - 9 | Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2020

Yn is-bwynt 6 c), dileu 'fel cynnig amgen posibl i’r cynnig ar gyfer un neu ragor o amgueddfeydd milwrol'.

NDM7421 - 10 | Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2020

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 6:

yn nodi canlyniad yr adolygiad annibynnol o ariannu Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn galw am gynnydd o £1.445 miliwn mewn cyllid sylfaenol yn y flwyddyn ariannol nesaf i roi cyllid y sefydliad ar sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. 

NDM7421 - 11 | Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2020

Dileu pwynt 5 ac ailrifo yn unol â hynny.

Cyflwynwyd gan

NDM7421 - 12 | Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2020

Ym mhwynt 6, dileu is-bwyntiau b) a c) a rhoi yn eu lle:

b) yn cydnabod y pwyslais y mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei roi ar les diwylliannol drwy greu cynlluniau a phenderfyniadau cynllunio, sy’n cefnogi’r gwaith o barhau i ddarparu defnyddiau diwylliannol ar gyfer cymunedau drwy ei ddull o greu lleoedd.

c) yn gweithio i sicrhau bod hanes Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei gynnwys a’i adlewyrchu ar draws rhwydwaith amgueddfeydd Cymru a thrafod ag arweinwyr cymunedau opsiynau i’r dyfodol er mwyn sicrhau sylw cyfiawn i’r hanes yma.

Polisi Cynllunio Cymru

Cyflwynwyd gan

NDM7421 - 13 | Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2020

Ym mhwynt 6, dileu is-bwyntiau e) a f) a rhoi yn eu lle:

e) yn gweithio i sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd gweithlu ac allbwn sector y celfyddydau;

f) yn cydnabod pwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg ac yn parhau i ystyried opsiynau er mwyn sicrhau na fyddant yn cael eu colli o’r amgylcheddau adeiledig a naturiol.

Cyflwynwyd gan