NDM7414 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2020 | I'w drafod ar 06/10/2020

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi yn llwyr

a) y frwydr fyd-eang i gael gwared â hiliaeth ac ideoleg hiliol ac ymdrechu tuag at Gymru sy’n fwy cyfartal, gan fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol; a

b)  egwyddorion Confensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD).

2. Yn galw am ddiweddariad gan Gomisiwn y Senedd ar ddatblygiad datganiad trawsbleidiol ar gyfer Cymru sy’n ymgorffori egwyddorion CERD.

3. Yn croesawu gwaith diwyd y Grŵp Cynghorol BAME ar COVID-19, a gydgadeirir gan y Barnwr Ray Singh a’r Dr Heather Payne, yr Is-grŵp Asesu Risg a gadeirir gan yr Athro Keshav Singhal a’r Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol a gadeirir gan yr Athro Emmanuel Ogbonna ac yn galw am i Lywodraeth Cymru sicrhau bod argymhellion Adroddiad yr Athro Ogbonna yn cael eu gweithredu’n llawn ac ar gyflymder.

4. Yn cydnabod yr angen am Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig, ac i hybu cyfleoedd i bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

Y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (Saesneg yn unig)

Grŵp Cynghorol BAME y Prif Weinidog ar COVID-19: Adroddiad yr Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol

 

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7414 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2020

Dileu pwynt 4 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod yr angen i ddiweddaru'r asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb er mwyn canolbwyntio ar y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a hyrwyddo unwaith eto gronfa fwy amrywiol o bobl sy'n gwneud penderfyniadau sy'n cynrychioli pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

NDM7414 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am adolygiad ynghylch gweithredu argymhellion adolygiad Lammy yng ngharchardai Cymru a'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.

NDM7414 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ychwanegu modiwl ar hil a dosbarth at ymchwiliad Tŵr Grenfell.

NDM7414 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r gwahaniaethu hiliol a brofir gan y rhai yng Nghymru yr effeithiodd sgandal y Windrush arnynt ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflymu iawndal i'r bobl hyn.

NDM7414 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi ac yn croesawu'r ffaith bod cysylltiadau hiliol yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig wedi gwella'n sylweddol dros y pum degawd diwethaf.

2. Yn gwrthod yn llwyr unrhyw awgrym bod pobl Cymru yn hiliol.

3. Yn gwrthod yn llwyr fod anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig.

4. Yn credu bod grwpiau gwrth-hiliol â chymhelliant gwleidyddol, megis Mae Bywydau Du o Bwys, a grwpiau cynghori BAME sydd ag aelodaeth sy'n bennaf yn adain chwith a hunan-ddetholedig,  yn dinistrio cysylltiadau hiliol da yn y Deyrnas Unedig a Chymru.