NDM6093 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 14/09/2016 | I'w drafod ar 14/09/2016Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, a rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a Chanolbarth Lloegr.
2. Yn credu bod y cynigion o fewn "Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru" yn cynnig sail ar gyfer gwella perfformiad economaidd yng ngogledd Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cyhoeddi cynllun i wella ac uwchraddio cefnffordd yr A55 i fynd i'r afael â thrafferthion tagfeydd, risg o lifogydd, a diffyg llain galed mewn rhai ardaloedd;
(b) gweithio gyda Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau bod llinell gogledd Cymru yn cael ei huwchraddio;
(c) gweithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu cynllun cerdyn teithio trafnidiaeth integredig ar gyfer gogledd Cymru;
(d) cyhoeddi cynllun busnes manwl ar gyfer datblygu Metro Gogledd Cymru.
Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth o fewn Cymru, a rhwng Cymru a gweddill y DU ac Ewrop.
Cyflwynwyd gan
Dileu is-bwynt 3(c) a rhoi yn ei le:
'cyflwyno cerdyn teithio clyfar ar gyfer Cymru gyfan er mwyn cysylltu pob cymuned drwy system drafnidiaeth integredig.'