NDM7372 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020 | I'w drafod ar 16/09/2020

Cynnig bod y Senedd:

Yn croesawu Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.

Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (Saesneg yn unig)

Gwelliannau

NDM7372 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn croesawu rhai rhannau o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n dychwelyd, yn briodol, bwerau pwysig o'r UE i'r DU.

NDM7372 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2020

Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y rhannau hynny o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig datganoli pwerau ymhellach i'r Senedd a Llywodraeth Cymru oherwydd, ar sail tystiolaeth yr 20 mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru yn debygol o'u defnyddio i gynyddu rheoleiddio, cyfyngu ar ryddid a thanseilio cystadleurwydd economi Cymru.

NDM7372 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid dileu'r Senedd, fel rhan o gynllun ehangach i unioni canlyniadau anfoddhaol datganoli drwy, yn benodol, ddemocrateiddio'r GIG a chreu mwy o ymreolaeth leol mewn addysg, ac wrth gadw elfennau Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n helpu i ddychwelyd  pwerau, yn briodol, o'r UE i'r DU.

NDM7372 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu bod Bil y Farchnad Fewnol, Llywodraeth y DU gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli a fyddai, pe bai’n cael ei ddeddfu, yn tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl Cymru.

Cyflwynwyd gan

NDM7372 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu na ddylai'r pwerau a gaiff eu dychwelyd gan Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig gael eu datganoli i Gymru o ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi methu mewn perthynas â'r pwerau datganoledig presennol sydd ganddynt.

NDM7372 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am refferendwm cyfrwymol ynghylch a ddylid cadw neu ddiddymu llywodraeth a senedd datganoledig Cymru, yn sgil amcanion arfaethedig Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.

NDM7372 - 7 | Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd yn cytuno bod Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU yn ymosodiad uniongyrchol ar genedligrwydd a democratiaeth yng Nghymru.

.  

Cyflwynwyd gan

NDM7372 - 8 | Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio annibyniaeth er mwyn diogelu democratiaeth yng Nghymru yn sgil Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU.

Cyflwynwyd gan