NDM7355 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 08/07/2020 | I'w drafod ar 15/07/2020Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu adroddiad y Tasglu a gafodd ei gadeirio gan Phil Jones yn nodi argymhellion ynghylch sut i newid y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru i 20 milltir yr awr.
2. Yn nodi’r ymchwil rhyngwladol sy’n dangos y manteision o ran diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y marwolaethau ymhlith plant, yn sgil lleihau terfynau cyflymder diofyn i 20 milltir yr awr.
3. Yn cydnabod y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno prosiectau peilot ynghylch terfynau 20 milltir yr awr, cyn cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr ar draws Cymru, a’r manteision a fydd yn deillio o hyn i gymunedau yn y dyfodol.
4. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i gychwyn ymgynghori ynghylch y bwriad i lunio gorchymyn drwy offeryn statudol (lle y bydd yn ofynnol derbyn cymeradwyaeth gan benderfyniad y Senedd) i leihau’r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig i 20 milltir yr awr.
Anfonwyd adroddiad y Tasglu drwy e-bost at yr Aelodau ar 8 Gorffennaf 2020
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynigion fel rhan o'r ymgynghoriad i sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi yr adnoddau priodol i ymateb i'r gorchymyn arfaethedig.