NDM7331 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 03/06/2020 | I'w drafod ar 10/06/2020

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sefydlu cynllun gwarantu cyflogaeth i bobl ifanc sy’n dioddef diweithdra o ganlyniad i Covid-19;

b) sefydlu cynllun ailhyfforddiant ac ailsgilio swyddi wedi’i gynllunio i genfogi’r rhai sydd angen canfod cyflogaeth amgen yn dilyn yr argyfwng;

c) cynnull cynulliad dinasyddion i drafod sut y dylai Cymru “Adeiladu Nôl yn Well” yn dilyn profiad o’r argyfwng; a

d) sefydlu "Cronfa Adnewyddu Cymru Gyfan" gwerth biliynnau o bunnoedd i ariannu’r gwaith o ailadeiladu ein gwlad.

 

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7331 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2020

Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r pecyn o gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cynllun Twf Swyddi Cymru, sy’n gynllun mawr ei barch sydd wedi helpu dros 19,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da, a hefyd raglen ReAct sydd wedi bod yn helpu unigolion ers degawd a mwy i ailhyfforddi ac i ddod o hyd i swyddi newydd.

2. Yn nodi Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, sy’n werth £500 miliwn, ac sy’n helpu miloedd o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru ar hyn o bryd i gadw i fynd ac i gadw unigolion mewn gwaith, ac a fydd yn helpu gyda’r adferiad yn y dyfodol. 

3. Yn nodi’r gwaith arbenigol ar gynllunio ar gyfer yr adferiad sy’n cael ei gydgysylltu ar draws Llywodraeth Cymru gan y Cwnsler Cyffredinol, a hefyd y gwaith y mae Gweinidog yr Economi yn ei wneud i nodi rhagor o ymyriadau ym maes sgiliau a fydd yn gallu helpu pobl i ailhyfforddi’n effeithiol yn ystod y misoedd sydd i ddod ac yn ystod y cyfnod adfer.

4. Yn croesawu’r trafodaethau adeiladol y mae Gweinidog yr Economi wedi’u cael gyda phob parti ynglŷn â sut y gellir cynnig y rhagolygon gorau posibl i bobl ifanc wrth inni ddod allan o gyfnod y Coronafeirws.

5. Yn cydnabod bod angen gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â’r undebau llafur a busnesau i Ailadeiladu’n Well ar gyfer y dyfodol.

6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron £2.5 biliwn ar gyfer ei hymateb i Covid-19 ers mis Mawrth 2020, yn nodi hefyd faint yr argyfwng economaidd sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig gyfan ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol i ysgogi’r economi a fydd yn gallu ategu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu adferiad gwyrdd a theg.

Cyflwynwyd gan

NDM7331 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2020

  Yn is-bwynt (a), dileu 'cyflogaeth' a rhoi yn ei le 'prentisiaeth' .

NDM7331 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2020

Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt (b):

'a chyflwyno rhaglenni cadw a datblygu sgiliau cyn gynted ag y bo'n ymarferol yn y sectorau sy'n wynebu'r risg fwyaf er mwyn sicrhau na chollir y gallu na'r cyfle i uwchsgilio'r gweithlu lleol yn ystod y cyfnod hwn o lai o weithgarwch.'

NDM7331 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2020

Yn is-bwynt (c), dileu 'cynulliad dinasyddion' a rhoi yn ei le 'tasglu trawsbleidiol'.

NDM7331 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2020

Dileu is-bwynt d) a rhoi yn ei le:

'sefydlu Cronfa Adfer Cymunedol Covid i gefnogi'r trefi a'r cymunedau hynny y mae eu heconomïau wedi'u taro galetaf gan y pandemig.'

NDM7331 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Er mwyn ailadeiladu Cymru yn economaidd o ganlyniad i argyfwng Covid-19, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod y cynllun rhyddhad ardrethi busnes Covid-19 yn cefnogi busnesau sy'n meddiannu eiddo ac nid landlordiaid sy'n berchen ar yr eiddo hwnnw;

b) rhoi cymorth i'r rhai yn y diwydiant lletygarwch sy'n talu rhent llawn i gwmnïau tafarndai yn ystod yr argyfwng;

c) deddfu i alluogi cwmnïau o Gymru i wneud cais llwyddiannus am gontractau sector cyhoeddus Cymru; a

d) cyfeirio'i pholisi economaidd tuag at adferiad a gaiff ei arwain gan allforio bwyd a diod drwy greu diwydiant chwisgi cyflawn.