NDM7328 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 27/05/2020 | I'w drafod ar 03/06/2020

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw am ymchwiliad annibynnol wedi'i arwain gan farnwr a benodir gan y Senedd, i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19, i'w gychwyn ar ddyddiad priodol, pan fydd y pandemig o dan reolaeth, ac i'w gwblhau cyn etholiad nesaf Senedd Cymru.

Gwelliannau

NDM7328 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2020

Dileu 'wedi'i arwain gan farnwr a benodir gan y Senedd'.

Cyflwynwyd gan

NDM7328 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2020

Dileu “ac i'w gwblhau cyn etholiad nesaf Senedd Cymru”.

Cyflwynwyd gan

NDM7328 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2020

Dileu 'ac i'w gwblhau' a rhoi yn ei le 'ac i adroddiad cychwynnol ar ei ganfyddiadau gael ei gyflwyno '     

Cyflwynwyd gan

NDM7328 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am gychwyn ymchwiliad annibynnol yn cydredeg, wedi'i arwain gan farnwr, i'r modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19.

Cyflwynwyd gan