NNDM7318 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod

Wedi’i gyflwyno ar 24/03/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Busnes y Cynulliad a Gweithdrefnau Brys' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth 2020.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i:

a)  diwygio’r Rheolau Sefydlog er mwyn ychwanegu Rheol Sefydlog 34 newydd, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes; a

b)  dirymu Rheolau Sefydlog 6.24A-H a 12.1A-C a dderbyniwyd ar 18 Mawrth 2020.

3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith pan gaiff y Cynulliad hwn ei ddiddymu, neu pan fydd y Cynulliad yn penderfynu felly, pa un bynnag sydd gyntaf.