NNDM7315 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

1. Yn atal Rheol Sefydlog 12.56(i) a (ii) sy’n ei gwneud yn ofynnol i:

a) Brif Weinidog Cymru ateb cwestiynau llafar unwaith, am hyd at 60 munud, ym mhob wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal Cyfarfod Llawn; a

b) bob un o Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau llafar ynglŷn â’u cyfrifoldebau, o leiaf unwaith, am hyd at 45 munud, ym mhob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal cyfarfod llawn,

fel nad yw’n ofynnol i'r Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ateb cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020.

2. Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7316, y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Coronafeirws, gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil y Coronafeirws

Bil y Coronafeirws (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd gan