NDM7312 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2020 | I'w drafod ar 18/03/2020Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog Dros Dro mewn ymateb i Coronafeirws (Covid-19)' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2020.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith pan gaiff y Cynulliad hwn ei ddiddymu.