NDM7310 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2020 | I'w drafod ar 18/03/2020Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau sy’n deillio o newid enw’r sefydliad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2020.
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar 6 Mai 2020.
Pwyllgor Busnes - Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau sy’n deillio o newid enw’r sefydliad