NDM7307 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 17/03/2020 | I'w drafod ar 07/04/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

Gosodwyd y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 18 Tachwedd 2019;

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 13 Mawrth 2020.