NDM7296 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020 | I'w drafod ar 11/03/2020Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y GIG.
2. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi cadw gwasanaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
3. Yn cydnabod bod recriwtio yn allweddol i gadw gwasanaeth damweiniau ac achosion brys a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
4. Er mwyn helpu recriwtio, yn galw ar y Gweinidog Iechyd i ddiddymu'r penderfyniad a wnaed yn 2014 i ddileu'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg fel rhan o Raglen De Cymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi:
a) yn unol â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, mai’r byrddau iechyd lleol perthnasol yng Nghymru sydd â’r cyfrifoldeb statudol am ddarparu gwasanaethau’r GIG mewn ardaloedd daearyddol yng Nghymru;
b) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n adolygu ei ddarpariaeth ar gyfer y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys hynny yn ardal y bwrdd iechyd sy'n benodol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg;
c) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n ystyried nifer o opsiynau yn ymwneud â'r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd;
d) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnal dadansoddiadau data, modelu a recriwtio, ac yn ymgysylltu â'r staff a’r cyhoedd er mwyn cynorthwyo penderfyniad gan ei fwrdd;
e) nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â dyfodol y ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1, ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Chwefror 2020 mewn cysylltiad â chadw gwasanaethau brys 24 awr o dan arweiniad ymgyngorydd meddygol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â dysgu gwersi o ymarferion ailstrwythuro blaenorol byrddau iechyd ac nad yw wedi sicrhau bod byrddau iechyd hefyd wedi cadw at yr egwyddorion ar ymgysylltu cyhoeddus sydd wedi’u diogelu yn 'Cymru Iachach'.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ymgynghori â'i gymunedau mewn modd amserol a chynhwysol.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder, dystiolaeth lafar ddiweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ar 27 Chwefror 2020 nad oedd y Bwrdd wedi bod wrthi'n recriwtio ymgynghorwyr meddygol adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.