NDM7284 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 25/02/2020 | I'w drafod ar 03/03/2020Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 4 Chwefror 2020.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v)cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn unol â Rheol Sefydlog 20.37, yn cytuno bod yr adnoddau sy’n cronni ac sydd i’w cadw gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan Ran 3 o Atodlen 4 o Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 a’r Grynodeb o’r Gofynion Adnoddau a Chyfalaf ar gyfer Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ar dudalen 6, yn cael ei ddiwygio o £14,825,000 i £14,775,000, fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru i’r Pwyllgor Cyllid i’w ystyried yn ei gyfarfod ar 6 Chwefror 2020; ac yn cytuno hefyd gyda’r newid cyfatebol i Atodlen 7 ar dudalen 29 fel bod Taliadau o Ffynonellau Eraill £50,000 yn fwy, a’r Symiau a Awdurdodwyd i’w Cadw gan Weinidogion Cymru a Chyrff a Ariennir yn Uniongyrchol £50,000 yn llai.
Explanatory Memorandum to the Finance Committee Regarding the Variation of the Estimate of the Wales Audit Office for the Year Ending 31 March 2020 (Saesneg yn unig)