NDM7276 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2020 | I'w drafod ar 26/02/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn gresynu wrth fethiant datganoli yng Nghymru hyd yma.

Gwelliannau

NDM7276 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu bod datganoli yng Nghymru wedi cael ei lesteirio hyd yma gan y methiant i ddatganoli rhagor o bwerau.

2. Yn galw am gryfhau datganoli yng Nghymru drwy:

a) datganoli'r doll teithwyr awyr; a

b) datganoli deddfwriaeth y system gyfiawnder yn llawn a chadw sefydliadau cyfiawnder annibynnol Cymru.

NDM7276 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

Dileu 'datganoli yng Nghymru' a rhoi yn ei le 'Llywodraethau olynol Cymru'. 

NDM7276 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid diddymu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

NDM7276 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod dewisiadau ymarferol eraill yn lle datganoli, yn absenoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cynnwys democrateiddio'r GIG a rhoi mwy o bwerau i riant-lywodraethwyr i benderfynu ar bolisi addysg ysgolion.

NDM7276 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu’r cyfraniadau cyfunol sydd wedi’u gwneud gan bleidiau gwleidyddol ar bob ochr a chan y gymdeithas sifig yn ehangach i sicrhau mai datganoli yw ewyllys sefydlog pobl Cymru.

Cyflwynwyd gan

NDM7276 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.        Yn gresynu wrth hanes anobeithiol Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi bod mewn grym yn barhaus ers dechrau datganoli.

2.      Yn credu bod Llywodraethau olynol y DU – o dan Lafur a’r Ceidwadwyr – wedi llywyddu dros dlodi sy’n pontio’r cenedlaethau a thanfuddsoddi yng Nghymru.

3.      Yn credu y dylai penderfyniadau am ddyfodol Cymru gael eu gwneud gan y rhai sy’n byw ac yn gweithio yma.

4.      Yn credu mai meddu ar ysgogiadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw’r allwedd i ffyniant Cymru yn y dyfodol.

5.      Yn cytuno mai cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru ddylai fod â’r grym i alw refferendwm ar annibyniaeth yn y dyfodol, heb unrhyw feto gan San Steffan.

 

Cyflwynwyd gan