NDM7266 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2020 | I'w drafod ar 12/02/2020Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r pryderon a fynegwyd gan gleifion a chlinigwyr ledled Cymru ynghylch perfformiad a dyfodol adrannau achosion brys y GIG.
2. Yn gwrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a allai arwain at roi terfyn ar wasanaethau 24 awr a gaiff eu harwain gan feddygon ymgynghorol yn adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn atal unrhyw achos o israddio neu gau adrannau achosion brys yng Nghymru yn ystod y Cynulliad hwn.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynllun cynhwysfawr ar gyfer cynyddu'r gweithlu clinigol, gyda ffocws penodol ar arbenigeddau ac ardaloedd daearyddol y mae'n anodd recriwtio iddynt, megis mewn adrannau achosion brys, fel na ellir byth ddefnyddio prinder staff i gyfiawnhau cau a newid gwasanaethau.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi adran damweiniau ac achosion brys barhaol gydag adnoddau llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gwrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i ddod â gwasanaethau damweiniau ac achosion brys 24 awr o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i ben ac yn galw ar y Bwrdd Iechyd i:
a) diystyru cau'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu sefydlu uned mân anafiadau 24 awr yn lle'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys presennol;
b) adfer yr opsiwn o gynnal gwasanaeth damweiniau ac achosion brys llawn o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru;
c) cyflwyno cynigion eraill ar gyfer gwasanaethau iechyd cymunedol, gan gynnwys gwelliannau i'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau ac ymestyn oriau agor yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Cwm Cynon, a allai leddfu'r pwysau ar bob un o'r tair adran damweiniau ac achosion brys.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod y datganiad trawsbleidiol ar Ddyfodol Gofal Brys Diogel yng Nghwm Taf Morgannwg.
2. Yn cydnabod yr angen i’r bwrdd iechyd fod yn agored ac yn dryloyw wrth ymgysylltu â’r cyhoedd, clinigwyr, y cyngor iechyd cymuned, cynrychiolwyr etholedig, staff a’u hundebau, i lywio eu penderfyniad ynghylch darparu pob math o ofal heb ei drefnu yn y dyfodol, gan gynnwys gwasanaethau brys.
3. Yn cydnabod bod yn rhaid i unrhyw ddarpariaeth gofal heb ei drefnu fod yn gadarn, yn ddiogel ac yn gynaliadwy.