NDM7263 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2020 | I'w drafod ar 12/02/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mwy a mwy o wasanaethau ar gael ar-lein yn unig.

2. Yn cydnabod nad oes gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd.

3. Yn cydnabod nad yw pawb yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r rhyngrwyd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod dewisiadau all-lein ar gael o ran gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, megis gyda'r system adnewyddu tocynnau bws; a

b) trafod gyda banciau, busnesau a sefydliadau eraill i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu hynysu os mai dim ond gwasanaethau ar-lein a gynigir.