NDM7233 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 15/01/2020 | I'w drafod ar 22/01/2020Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2019.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2019.