NDM7229 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2020 | I'w drafod ar 15/01/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cynnydd mewn adroddiadau o drais rhywiol yng Nghymru a Lloegr.

2. Yn mynegi cydymdeimlad ac undod â goroeswyr trais a chamdriniaeth rywiol.

3. Yn gresynu at fethiant parhaus nifer o systemau cyfiawnder troseddol ledled y byd i gynnig cefnogaeth i oroeswyr, a gresynu’r ffaith nad yw goroeswyr, yn rhy aml, yn cael eu credu ac yn cael eu gorfodi i ail-fyw profiadau erchyll drwy brosesau llys dwys, a diwylliannau mewn heddluoedd nad ydynt yn credu dioddefwyr.

4. Yn nodi bod erlyniadau ar gyfer trais rhywiol ac euogfarnau yng Nghymru a Lloegr ar eu lefelau isaf ers degawd, a bod gwella cyfraddau euogfarnu’n rhan hanfodol o strategaeth atal trais.

5. Yn nodi bod comisiwn Thomas wedi dadlau mai dim ond datganoli deddfwriaethol llawn, ar y cyd â phwerau gweithredol, fydd yn goresgyn rhwystrau’r setliad datganoli presennol o ran mynd i’r afael â diffyg cyfiawnder ac atebolrwydd y status quo.

6. Yn galw i wasanaethau cymorth a gwasanaethau ymosodiad rhywiol fod ar gael ac iddynt gael eu hariannu’n ddigonol, ac i lysoedd gael eu haddasu fel y bydd dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn, nid eu dychryn, wrth roi tystiolaeth.

7. Yn galw i ddatganoli cyfiawnder fel y gallwn fynd i’r afael â’r cyfraddau euogfarnu isel hyn drwy fabwysiadu arfer gorau rhyngwladol ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais rhywiol.

Adroddiad Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru - Hydref 2019

Gwelliannau

NDM7229 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2020

Dileu pwyntiau 5 a 7.

 

NDM7229 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi adroddiad Comisiwn Thomas ac yn diolch i’r Comisiwn am ei waith ar y posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder gan edrych ymlaen at y ddadl a addawyd yn ystod amser y llywodraeth ar ganfyddiadau’r Comisiwn ac unrhyw effaith a gaiff y rhain ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais rhywiol.

NDM7229 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2020

Dileu pwyntiau 5 a 7. 

NDM7229 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod adroddiad Arolwg Trais Rhywiol 2019 Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron EM wedi canfod bod nifer yr achosion a gyfeiriwyd at y Gwasanaeth i gael eu penderfynu gan yr heddlu a nifer yr achosion a erlynwyd gan y Gwasanaeth wedi disgyn, er gwaethaf bod adroddiadau o drais a gaiff eu cyflwyno i'r heddlu bron wedi dyblu.

Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron EM - Arolwg Trais Rhywiol 2019 - Rhagfyr 2019

NDM7229 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi datganiad Llywodraeth y DU bod y canfyddiadau yn peri pryder mawr a'i bod wedi ymrwymo i adfer hyder yn y system gyfiawnder a darparu gwell cefnogaeth i ddioddefwyr.

Adroddiad HMCPSI ar gyfraddau euogfarnau trais rhywiol - 17 Rhagfyr 2019