NDM7225 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2020 | I'w drafod ar 14/01/2020Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019, yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2019.
Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2019, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.