NDM7222 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019 | I'w drafod ar 07/01/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru).   

Gosodwyd y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 8 Gorffennaf 2019;

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 6 Rhagfyr 2019.