NDM7203 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2019 | I'w drafod ar 26/11/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).

Gosodwyd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 17 Mehefin 2019.

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 15 Tachwedd 2019.