NDM7192 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2019 | I'w drafod ar 13/11/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod swydd Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn wag.

2. Yn penodi Douglas Bain CBE TD fel Comisiynydd dros dro, yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, ar y telerau a ganlyn:

a) bydd y penodiad yn dod i rym ar unwaith;

b) bydd y penodiad yn dod i ben ar unwaith pan roddir hysbysiad i'r Comisiynydd dros dro gan Glerc y Cynulliad;

c) bydd taliad y Comisiynydd dros dro yn gyfradd ddyddiol o £392 (neu pro-rata am ran o ddiwrnod) ar gyfer gweithgareddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rôl a chyfrifoldebau'r swydd ynghyd â threuliau rhesymol;

d) bydd pob swm y cyfeirir ato ym mharagraff 2(c) i'w dalu i'r Comisiynydd dros dro gan Gomisiwn y Cynulliad.

Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009