NDM7189 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 12/11/2019 | I'w drafod ar 19/11/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru).

Gosodwyd Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 14 Hydref 2019;

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) ar 12 Tachwedd 2019.