NDM7186 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2019 | I'w drafod ar 13/11/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:
a) archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion gwariant, gweinyddu a pholisi sy'n cwmpasu (ond heb fod yn gyfyngedig i): lywodraeth leol; tai, adfywio cymunedol, cydlyniant a diogelwch; trechu tlodi; cyfle cyfartal a hawliau dynol;
b) arfer y swyddogaethau nad ydynt yn rhai cyllidebol a nodir yn Rheol Sefydlog 18A.2 mewn perthynas ag atebolrwydd a llywodraethu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.