NDM7155 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2019 | I'w drafod ar 16/10/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar ddefnyddio plastigau untro.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) lleihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro yn seiliedig ar yr arferion a'r ymchwil rhyngwladol gorau, a fyddai'n sefydlu Cymru fel arweinydd byd o ran lleihau gwastraff plastig;
b) cyflwyno trethi ac ardollau priodol er mwyn lleihau'n sylweddol y gwaith o gynhyrchu plastigau untro yng Nghymru a'r defnydd ohonynt;
c) cyflwyno cynllun gweithredu trawslywodraethol gan gynnwys cyfres gynhwysfawr o fesurau i leihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro;
d) pennu targedau a cherrig milltir ar gyfer lleihau plastigau untro penodol.